pan yr adroddwyd yr englyn iddo, ac ysgydwai ei ben, gan, ddyweyd, "O y 'ddhen ddôg, mi dala' i iddo fo ddyw ddiwddnod!"
Sarah wen, gain, fy seren gu, — yn Salem
Mae sylwedd pregethu;
Na foed i ti ynfydu
Wrando dawn yr " Hen Dŷ Du."
————
BEDDARGRAFF JOHN PUGH, YSW.,
(IEUAN AWST), yr hwn oedd yn Fardd, Llenor, Chyfreithiwr medrus. Bu yn Ysgrifenydd Cyfreithiol Ynadon Dolgellau am dros 30ain o flynyddoedd. Bu farw Chwefror 16eg, 1839, yn 51 mlwydd oed.
Ow! Ieuan Awst, ai 'r un wedd — a'r annoeth
Mae'r enwog, mewn llygredd?
Wele'n awr gawr yn gorwedd,
Mawr ei bwyll, rhwng muriau bedd!
Ffrwd ydoedd o amgyffrediau — cryf,
Wr craff ei feddyliau ;
Er corphyn o briddyn brau,
Môr o ddyn, mawr ei ddoniau!
————
AR FEDD MR. HUGH PUGH, Y TELYNOR.
Mab ieuangaf y diweddar Mr Richard Pugh, Arweinydd i Ben Cadair Idris, oedd y gwr ieuanc uchod. Yr oedd yn Chwareuwr medrus ar y Delyn Gymreig. Bu farw yn Llundain yn 28ain oed, a chladdwyd ef yn Mynwent