Tudalen:Gwaith-Dewi-Wnion.djvu/7

Gwirwyd y dudalen hon

rhyweth mwy na hyny i farw." Anhawdd fuasai cael esboniad ymarferol mwy tarawiadol ac effeithiol ar eiriau y Salmydd, yn Salm 42. 1 a 2, nag a gaem wrth edrych ar yr hen bererin ffyddlon hwn yn ei flynyddau diweddaf, pan oedd ei nerth wedi myned yn boen a blinder, yn ymlusgo wrth nerth ei ffon tua Thŷ ei Dduw, ei gefn yn crymu, ei draed yn trystio y ddaear, a'i gerddediad yn drwsgl ond yn egniol. Gellid dychymygu wrth edrych arno ei fod yn sibrwd yn barhaus yn ei feddwl, — "Sychedig yw fy enaid am Dduw, am y Duw byw; pa bryd y deuaf ac yr ymddangosaf ger bron Duw".

Ar yr olwg gyntaf, y mae cyfrifiad Mr. Rees o'r milldiroedd a gerddodd yr hen ŵr o'i dŷ i'r capel yn ymddangos braidd yn anhygoel; ond pan gofir fod ganddo lawn ddwy filldir a hanner i'w cerdded bob tro, rhwng myned a dychwelyd, ac y byddai yn bresenol ddwy-waith o leiaf ar y Sabbath, a dwy-waith yn ystod yr wythnos, yr oedd ei daith wythnosol i'r capel yn ddeng milldir neu bum cant a thriugain milldir mewn blwyddyn, neu saith mil ar hugain, pum cant, a thriugain milldir mewn 53 o flynyddau! Y mae yn dra sicr, gan hyny, nad oedd amcangyfrif Mr. Rees fymryn yn rhy uchel. 

Yn Noluwcheogryd, fel y crybwyllwyd, yr oedd yr hen bobl yn preswylio, ac yno, felly, y ganwyd Dewi; yn swn ffrydiau yr Wnion, oddiwrth yr hon y cymerodd efe ei enw barddol. Efe oedd y chweched o wyth o blant. Cafodd ei ddwyn i fyny yn yr un alwedigaeth a'i dad, (saer coed) ac ystyrid ef yn ei ddyddiau goreu, yn grefftwr medrus, fel y tystia