Tudalen:Gwaith-Dewi-Wnion.djvu/71

Gwirwyd y dudalen hon

Nghroesoswallt, neu y gymydogaeth, nad oedd, fe allai, yn alluog i'w werthfawrogi. Pa fodd bynag, methwyd, er pob ymholiad, a chael dim o'i hanes.

Yn ystod ei flynyddau olaf perswadiwyd Dewi gan nifer o'i gyfeillion, i ymdrechu adgofio cymaint ag a allai o'r cyfansodiadau oedd yn y llyfr hwnw, yn gystal a rhai diweddarach; ac efe a lwyddodd o dro i Aro i adgofio cryn nifer o honynt. Ond yr oedd yn ymwybodol ei fod wedi cyfansoddi llawer o Englynion nas gallai mewn un modd eu hadgofio. Os dygwydd i rai o ddarllenwyr y llyfr hwn ddyfod o hyd i ryw Cân neu Englyn o'i waith nad yw yn argraffedig ynddo, bydd yr argraffydd yn ddiolchgar iawn i bawb a anfonant gopi iddo.