Tudalen:Gwaith-Dewi-Wnion.djvu/8

Gwirwyd y dudalen hon

llawer dodrefnyn o'i waith sydd eto ar gael. Adroddai yn fynych am dro lled ddigrifol a ddygwyddoddy pryd hyny. Yn mhlith ei gymydogion yr oedd llencyn a elwid "Dic William," yr hwn a gyfrifid yn un lled ddiniwaid; ond a fu wedi hyny am flynyddau yn dra defnyddiol fel blaenor y gân yn nghapel yr Annibynwyr yn y dref; efe a ymfudodd i'r America tua deugain mlynedd yn ol, ac a fu farw mewn ychydig fisoedd wedi cyrhaedd yno. Yr oedd Dewi wedi cael amryw o arfau newyddion, ac yn eu plith amryw gynion bychain hylaw at wneyd dodrefn. Byddai Dic yn myned yn fynych i'r gweithdy, ac yn edmygu y cynion newyddion yn fawr iawn. Ond yn mhen ychydig wythnosau fe gafodd Dewi allan fod y cynion yn diflanu o un i un, ac yr oedd yn naturiol i'r amheuaeth ddisgyn ar Dic. "Dic" ebai Dewi un diwrnod; "yr ydw i wedi colli, fy nghynion - welaist di mo'nynt yn un man." "Na welais i," ebe Dic, gan gochi fel twrci. " Wel," meddai Dewi, " os gelli di gael eu hanes nhw, a dyfod a nhw i mi mi gei aderyn du, byw, hefyd, gen'i am dy boen. "Mi gaf! " ebai Dic, "Cei yn siwr." Ac os oodd rhyw wendid mwy na'i gilydd yn perthyn i Dic y pryd hwnw, awydd am feddiannu aderyn du oedd hwnw. Dranoeth, wele Dic i'r gweithdy. "Mi ffeindiais i y cynion, Deio; dyma nhw; lle mae 'y 'neryn du i?" Cododd Dewi ei ben, ac fel y dygwyddodd, yr oedd aderyn du ar y cae yn y golwg, "Dacw fo, Dic meddai Dewi, "tyn dy gap yn barod, a cherdd yn ddystaw ato, mi dalio mewn mynyd." Ymaith a Dic yn ei led-ol i'r cae rhyngddo a'r aderyn, tarawodd ei gap drosto, a daliodd ef yn y fan, er syndod dirfawr i Dewi.