A chorniai â thri chernawd,
Rhoes hyd lwch Hwrdd Persia dlawd.
Trystiodd y ddaear trosti,
Rhoddai waed i'w rhuddo hi;
O flaen ei ddyfal wyneb.
Ef yn wir, ni safai neb:
Yn y gad corniai gedyrn,
Rhedai gwaed ar hyd ei gyrn
Y byd crwn hwn, ef yn hawdd,
Yn ei wanc, a draflyncawdd;
Dyheu 'roedd am fyd arall,
Awyddu cael llyncu 'r llall:
Ni bu son am neh is ser
Undyn fel Alecsander.
Ei olynwyr yn fileinion—
Hwy, fel geirwon ryfelgarwyr,
Fu'n ormeswyr, treiswyr trawsion,
Oesau mawrion, gas ymyrwyr,
Codi hirion gadau blinion,
Taenu gwaeon, tân, a gwewyr,
Difa dynion, amlhau gweddwon,
Dwyn yn gaethion lwydion wladwyr.
Mwy rhyfedd fu grym Rhufain,
Ei harwyr hi gurai y rhai'n !
Romulus, yng ngrym ei lid,
Wnai ryfel a mawr ofid.
Chwech ereill chwai a chwerwon,—a hannent
O honi 'n dwyn coron;
Ofnadwy fu niweidion.
Eu rhwysg ar y ddaear hon.
Gwyr enwog y weriniaeth,
Fu er hyn wedyn yn waeth:
Eryr gludai y gwŷr gau.
Yn arwydd eu banerau;