Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/103

Gwirwyd y dudalen hon

Gwir arwydd o'u hawydd hwy,
A'u llid anniwalladwy.
Tros Ewrob, eu traws eryr,
Ar wib aeth mewn amser byrr;
Ag ewinedd cigweiniawl,
E dynnai hon dan ei hawl.
I dir Asia ai drosodd,
Hwn â'i dew aden a dodd;
Ac i Affrig mewn cyffro,
Yn ei ddig, ehedodd o.
Yn eu certh gynnen â'r Carthaginiaid,
Ymladdent, rhwygent, fal enbyd ddreigiaid;
Codai creulon eirwon flin flaenoriaid,
I gyd o'u bonedd, fawrion gadbeniaid;
Enwi'r oll yma ni raid—a diles,
Agor ail hanes rhai fu'n greuloniaid.
Profid yn mysg y prifion,
Regulus frydus ei fron;
A Scipio eto fu'n atal—rhwysgwaith,
Curai i anobaith y cawr Hannibal.
Sylla, a Marius, eilwaith,
Yn y byd wnaent waedlyd waith.
Pompey chwai pwy wympach oedd?
Mawr ei fawl am ryfeloedd.
Y mwyaf oll am ei får
Afiachusol, fu Chaisar;
Hwn i'w nwyd greulon ei nerth,
A dybiai gael gwneyd aberth
O'r byd 'oll, heb arbed un—wladwriaeth,
Ei llwyr alaeth ar allor ei eilun.
Ymladdodd, frad ofnadwy,
Hanner cant, meddant, a mwy,
O gadau tost; a'i fost fu,
A'i fyddin iddo faeddu