AWEN! telyn fwyn fy ieuenctid, Ti felusaist lawer awr,
Fuasent hebot ti ofid Prudd, ac annifyrrwch mawr:
Chwarae ar dy dannau mwynion, A'm difyrrai pan yn syn
Gyrrodd fyrdd o ddrwg ysbrydion "Ymaith lawer gwaith cyn hyn.
Sibrwd rhediad afon Aled, Tros y cerrig llyfnion mân,
A dy demtiai wrth ei glywed, Lawer gwaith i eilio cân:
Tyner fysedd yr awelon, Pan chwareuent ar y-dail,
A'th enynnent dithau'n union I wneyd pennill bob yn ail.
Pan y byddai blinder llwythog, Neu ryw nychdod dan y fron,
Awel iachus hen Hiraethog, A adferai iechyd llon;
Llawer hafddydd ar ei fryniau, Dreuliais yn dy gwmni gynt,
Lle ni safai ein gofidiau Mwy na'r uso flaen y gwynt,