Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/14

Gwirwyd y dudalen hon

Mae'm dychymyg yn delweddu
Hen lanerchau'r funud hon,
Buost, Awen fwyn, yn tynnu
Llawer pigyn o fy mron;
Wrth adgofio hen linellau,
Mae myfyrdod yn fy nwyn
Eto'n ol i'r hyfryd fannau
Cefais bob rhyw linell fwyn.

Nid oes heddyw ond yr adgof
Am y pethau hynny gynt—
Adgof swn y ffrwd risialog,
Si y dail wrth chwarae â'r gwynt:
Adgof awel iach y mynydd,
Adgof bref y defaid mân,
Adgof hen deimladau dedwydd-
Adgof ydyw'r oll o'm cân.

Adgof sydd yn ennyn hiraeth—
Hiraeth! d'wedwch, pa beth yw?
Math o ddelw, neu ddrychiolaeth?
Nage, mae yn deimlad byw !
Drach ei gefn, a thros ei ysgwydd,
Syllu mae ar bethau fu,
Heb ofalu beth a ddigwydd,
Beth a ddaw, neu beth y sy.

Chwilia holl gilfachau'r galon,
Am ad-gof o bethau gynt,
Cwyd hwy i fyny fel ysbrydion,
O'r dyfnderau ar eu hynt;
Chwydda'r fynwes gan deimladau
Drylliog iawn, a llwythog fydd,
Eto'r ocheneidiau a'r dagrau
Roddant ryw hyfrydwch prudd.