Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/23

Gwirwyd y dudalen hon

CANIADAU IEUENCTID.

MAE nifer o'r Caniadau yn gynhyrchion शु blynyddoedd boreuol fy mywyd; a theimlwn megys pe yn ad—fyw y tymor hwnnw o'm hoes wrth eu hadolygu a'u trefnu i'r argraffwasg. Cofiwn gyda bryd hiraethlawn am yr hen lanerchau ar y meusydd, ar lan Afon Aled, ac ar Fynydd Hiraethog, lle y cyfansoddwn y naill ddernyn a'r llall; ac am yr hyfrydwch bachgenaidd a brofwn pan ddigwyddai i mi gael ambell i linell wrth fy modd; y rhai a dybiwn i, druan, y prydiau hynny, yn gyfryw ag y buasai Milton ei hun yn falch o honynt. Y mae y llinellau hynny megis wedi cysegru y cyfryw fannau i'w cofio gennyf gyda hoffder; nid yn wir ar gyfrif unrhyw ragoroldeb a ymddengys i mi yn awr yn y llinellau eu hunain, ond yn unig ar gyfrif yr adgof am y boddhad a'r hyfrydwch a deimlwn ar yr achlysuron crybwylledig. Hoffai Solomon awelon a golygfeydd Senir, a Hermon, ac Amana; a'r bardd Groegaidd ddyfroedd ei Helicon, ac awyr ei Barnasus: a dadganai y naill a'r llall eu serch at y mynydd a'r afon lle y buasent yn myfyrio ac yn cyfansoddi ar eu glannau ac ar hyd eu llechweddau. Pa ham, gan hynny, y gwarafunir i'r bardd Cymreig draethu ei hoffder at yr afonig honno, a'r mynydd hwnnw, yng nghymdeithas y rhai y treuliasai oriau difyrraf a melusaf ei fywyd? Iddo ef,—

"Ni raid awen gymhenog
O drum Parnasus gwlad Roeg