ei manteision yn gystal a'i hanfanteision. Bu fy anfanteision boreuol hynny yn fanteisiol i minnau mewn un peth—cyfyngodd gylch fy narllenyddiaeth yn bennaf oll at yr Ysgrythyrau Sanctaidd; yr hyn a'm dygodd i'r fath gydnabyddiaeth â hwy, na chyrhaeddaswn mo honi ond odid, pe buasai gennyf wrth law ddigonedd o lyfrau eraill cydnabyddiaeth a ystyriaf heddyw y pennaf a'r gwerthfawrocaf peth a feddwyf.
Yr oeddwn tuag ugain oed pan dueddid fy meddwl gyntaf i sylwi ar farddoniaeth cyn hynny, ni theimlaswn nemawr i ddim dyddordeb yn y gelfyddyd. Caniadau Williams o Bant y Celyn, yn wir, a roddent i mi fawr hyfrydwch er yn blentyn: ond prin yr edrychwn ar farddoniaeth yn y mesurau caethion. Yr un a fu yn offerynol i dueddu fy meddwl yn y ffordd hon ydoedd R. ab Dafydd (Robert Davies), o'r Gilfach Lwyd, Llansannan, yr hwn oedd i mi yn gymydog agos; â chanddo drysorfa led gyfoethog o lyfrau Cymreig, henafiaeth a barddoniaeth a'r hwn oedd (ac sydd eto) yn dra hyddysg yng ngramadeg yr iaith, a rheolau ei barddoniaeth. Cyrchwn at fy nghyfaill R. Davies bob cyfleusdra a gawn i ddarllen ei lyfrau, ac i dderbyn ei addysgiadau. Ewyllysiai ef wneuthur bardd o honof; ond cafodd waith caled i'm dysgyblu cyn y gallai hyd yn oed gynhyrchu unrhyw awydd ynnof at y gelfyddyd; a gwaith caletach na hynny drachefn i'm haddysgu i ddeall rheolau ac adnabod beiau gwaharddedig cerdd dafod; bum yn hir "fel llo heb ei gynhefino â'r iau." Athraw lymfanwl oedd R. Davies; nid oedd trugaredd na maddeu-