Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/27

Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd Bardd Nantglyn a rhai cyfeillion eraill wedi eu gwahodd yno i'm cyfarfod. Dyna y tro cyntaf i mi weled y doethawr, a bod yng nghyfeillach Bardd Nantglyn. Bu y Doctor yn hynod garedig i mi bob amser wedi hyn, pan ddigwyddwn alw heibio iddo; a'i fab, Aneurin Owen, a Bardd Nantglyn, yr un modd; yr hyn a roddai lawer o gyfnerthiad i'm meddwl yr amser hwnnw, ac a bâr fod eu coffadwriaethau yn dyner ar fy nghof a'm teimlad hyd y pryd hwn. Ychydig cyn hynny y daethwn i gydnabyddiaeth bersonel gyntaf â Chaledfryn. Yr oedd ef wedi dechreu blodeuo a rhagori fel bardd rai blynyddoedd o'm blaen i. Rhoddai Caledfryn i mi bob addysg, hyfforddiant, a chefnogaeth, pan ddigwyddai i ni gyd-gyfarfod; yr hyn ni ddigwyddai yn fynych iawn, o herwydd ein bod wyth milldir o ffordd oddi wrth ein gilydd yn byw.

Fy anturiaeth gystadleuol nesaf ydoedd yn mhen dwy flynedd wedi y gyntaf, yn Eisteddfod freiniol Dinbych, yn 1828. Cyfansoddais ar dri o destynau, sef Cywydd "Ar ymdrech Buddug yn erbyn y Rhufeiniaid," Cywydd "Ar Orllifiad y Môr dros Gantref y Gwaelod," ac "Awdl farwnad i Goronwy Owain."

Hysbys i lawer o'm darllenwyr ddarfod i'r "Cywydd ar Frwydr Trafalgar" gael ei gyhoeddi gydag ychydig ganeuon eraill, yn fuan ar ol yr eisteddfod yn Aberhonddu; ac i' r Cywydd ar "Gantref y Gwaelod " ymddangos yn y "Gwyneddigion," gyda chyfansoddiadau buddugol eraill yr eisteddfod yn Ninbych. Teg ydyw i mi grybwyll ddarfod i mi gymeryd fy