Gwirwyd y dudalen hon
rhyddid i newid cryn lawer ar y ddau ragor oeddynt yn eu cyflwr cyntaf, fel y gwel y rhai a feddant y fantais i'w cymharu fel y maent yn y llyfr hwn a'r argraffiadau cyntaf o honynt.
Un o ysbryd rhyfelgar iawn yw y cyntaf; nid
oeddwn yn barnu y buasai yn deg i mi gyfnewid
dim ar ei ysbryd a'i dôn, gan y buasai hynny
yn dinistrio ei unrhywiaeth. Yr oll a wnaed
oedd tynnu ymaith linellau gweinion o ran
meddwl a chynghanedd, a dodi rhai a olygwn
yn gryfach yn eu lle, gan adael ystyr ac ysbryd
y cyfansoddiad yr un a'r unrhyw.