Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/46

Gwirwyd y dudalen hon

Daw 'r Fabel ysbrydol yr un modd a hithau,
I lawr; mae ei dydd yn prysur neshau;
Pan esgyn mwg llosgiad yr hon i'r wybrenau,
Bydd nefoedd a daear yn cydlawenhau.

Yn ofer y cyfyd ei themlau ysblenydd,
Mae diwrnod ei distryw tragwyddol gerllaw;
Mae angel yr Arglwydd yn trwsio 'i adenydd,
A'i udgorn yn barod yn awr yn ei law.

Yn fuan fe'i gwelir yn lledu ei esgyll,
Gan hedeg yn gyflym trwy ganol y nen;
Wrth fyned, udgana, cyhoedda 'i chwymp erchyll
Nes adsain y ddaear a'r awyr uwch ben.

Mae gwaed y merthyron dywalltodd yn erfyn
O'r ddaear am ddial—mae 'r llais yn y nen;
Mae dwrn yr Anfeidrol yn gaead i'w herbyn,
A disgyn y dyrnod cyn hir ar ei phen.

Yn ofer ymdrwsia—ei dinistr a dyngwyd
Yn arfaeth a bwriad tragwyddol yr Ior;
A phan ddaw ei dydd, hi a sodda mewn munud,
Un fath a maen melin yn nyfnder y môr.

Bydd llawer o herwydd ei chwymp yn alarus,
Ac eraill a ganant ei marwnad yn llon;
Holl saint y Goruchaf yn fuddugoliaethus,
Lawenant am ddinistr y butain fawr hon.