Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/52

Gwirwyd y dudalen hon

Chwydda 'i donnau fel mynyddau,
Rhua megys taran fawr,
Hyrddia 'i freichiau preiff, ac egyr
Anferth safni lyncu 'r llawr.


"Pan edrychwyf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd."

Pan edrychwyf ar dy nefoedd
Uchel anherfynol draw,
A'r aneirif ffurfafenau
Grogaist yn ei bru uwchlaw:—
Heuliau fyrdd myrddiynau 'n fflamio,
Ac yn tywallt gwres y dydd
Ar filiynau maith o fydoedd,
Yn daenedig ynddynt sydd.


"Beth yw dyn i ti ei gofio?"

Beth yw dyn i ti i'w gofio?
Beth yw dyn? Jehofah mawr,
Pan feddylit ti am dano,
Bryfyn isel ar y llawr?
Beth yw 'r ddaear? dim ond llwchyn—
Llai na dim yw dyn a'i fri;
Eto, rywfodd, dyn a daear
Demtiai i lawr dy sylw di!


"Ac yn llawenychu yn nghyfaneddle ei ddaear ef."

Pan y gelwid yn y.boreu
Restr enwau ser y nen,
Deuent oll dan ganu a dawnsio,
Heibio i'r orseddfainc wen:
Yn ei thro, ymhlith y lluaws,
Ymddanghosai 'n daear ni—
Cododd gwrid i wyneb cariad
Dwyfol, pan y gwelodd hi!