Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/56

Gwirwyd y dudalen hon

YNG NGHADAIR PRIFARDD.

EDRYCHWN ar gadair prif fardd eisteddfod freiniol bob amser fel sefyllfa uwch law galluoedd pennaf fy awenyddiaeth i fedru dringo iddi; ac, yn wir, ychydig iawn o eiddigedd a deimlaswn un amser am y ragorfraint. Ac o herwydd y ddau beth yna, ni chynygiaswn erioed am dani, na meddwl o ddifrif am hynny chwaith, hyd nes y daeth testyn cadair Eisteddfod Madog allan yn 1851. Teimlais awydd cryf i gyfansoddi "Awdl ar Heddwch" i'r gystadleuaeth honno, deued a ddelai o honi. Yn gymaint ag mai Brwydr ydoedd testyn fy nghyfansoddiad cystadleuol cyntaf, y byddai i hwn, yr olaf yn ddiau i mi, ddwyn ei dystiolaeth dros Heddwch, a dadgan rhinweddau a bendithion tangnefedd.

Llefara fy meirniaid yn uchel am deilyngdod yr "Awdl ar Heddwch;" ond dywedant,— Da pe cawsai yr awdwr ychydig mwy o hamdden i'w hadolygu cyn ei hanfon i'r gystadleuaeth." Ychydig iawn yn wir o hamdden at hynny a allasai gael—yr oedd yn anorffenedig foreu y dydd olaf i'w dodi yn y llythyrdy i'w chludo i law ysgrifenydd yr eisteddfod. Yr oedd ganddo, tra yn ei chyfansoddi, heblaw ei alwadau gweinidogaethol, a golygiaeth yr Amserau (yr hwn oedd o dan ei ofal y pryd hwnnw), y llyfr Seisonig a gyhoeddodd—"Providence and Prophecy"—yn y wasg; un tudalen o'r hwn a gymerai gymaint o'i amser i'w barotoi ag a gymerasai hanner cant o dudalenau yn y Gymraeg.