Rhagymadrodd
GANWYD William Rees (Gwilym Hiraethog) Tach, 8, 1802, yn Chwibren, amaethdy ger glan afon Aled, tua dwy filldir o bentref Llansannan. Yr oedd ei dad, Dafydd Rees, y Chwibren, yn ŵr o deimladau dwys a thyner ; yr oedd ei fam, gynt Ann Williams, Cefn y Fforest, gerllaw, yn ddiysgog a hyderus. Ceir nodweddion y ddau, tynerwch y naill a chryfder y llall, yn y mab hynaf, Henry Rees, y pregethwr seraffaidd, ac yn y mab ieuangaf, Gwilym Hiraethog aml ei ddoniau. Bro Tudur Aled a Gruffydd Hiraethog a Siôn Tudur a William Salisbury, a llawer llenor arall, yw'r fro; ac yr oedd yr awen yn aros ynddi. Cafodd mab y ffarmwr athrawon a llyfrau. Yn athrawon cafodd fab i Edward Jones, Maes y Plwm, a Robert ap Dafydd o'r Gilfach Lwyd; yn llyfrau cafodd ychydig o gyfrolau meddylgar. Pan yn llanc dechreuodd brydyddu. Tra'n gwthio ffridd,—gwaith caled, ond gweithiwr caled oedd Gwilym Hiraethog—gwnaeth gywydd ar frwydr Trafalgar at Eisteddfod Aberhonddu yn 1826. Cafodd y wobr, a daeth yn hawdd ac esmwyth i fysg llenorion goreu Cymru. Yr oedd yn gawraidd ei feddwl, ond yn ostyngedig fel plentyn; gŵr distaw oedd, ond dangosai ei wên serchog fod yr enaid yn llawn cydymdeimlad.