Gwae ni! Ha! Morgan Howell— a fu ddyn,
Feddiannai ddawn uchel;
Ei enau sydd o dan sel,
Oer y tywod, dir tawel.[1]
Gwr oedd o feddwl gwreiddiol—a doniau
Danient yn rhyfeddel;
Athraw o ddull dieithriol,—
Un o'i ryw ni cheir o'i ol.
Dyn â'i enw yn dwyn eneiniad—y nef,
Nofio wnai mewn teimlad;
Uchel oedd yn mharch ei wlad,
A mawr iawn ei gymeriad.
E roi fywyd mewn tyrfaoedd—dyn Duw,
A dynai dân o'r nefoedd;
Ei wedd a'i lais treiddiol oedd,
Yn eu lle crynnai lluoedd.
Gyda 'i lef pan goda 'i law—deneu fach,
Dyna fyrdd yn ddistaw;
Dagrau geir yn llifeiriaw—
Rhedai lif fel ffrwd o wlaw.
Iachawdwriaeth pechaduriaid—yr Iawn
A'i rinwedd bendigaid,
Oedd ei destun, bu 'n ddi—baid
Yn berwi yn ei bur enaid.