Gwirwyd y dudalen hon
THOMAS GEE O DDINBYCH (Yr Hynaf).
Yn ei oes un hynawsach—ni chafwyd,
Na chyfaill cywirach;
Dyn o enaid unionach
Ni bu erioed dan wybr iach.
E swynai 'i hynaws wyneb—ni 'n hollol,
Enillai anwyldeb;
Rhoi gwarth anair gwrthwyneb,
Iddo'n wir ni feiddiai neb.
Delw 'i enaid a lanwai—ei wyneb,
A'i wên a arwyddai,
Y dymer län feddiannai,
Bur a mwyn fel bore Mai.
Gŵr Duw oedd, geirda iddo,—a'i enw
Heb un anaf arno:
Anrhydedd lle bu 'n rhodio;
A'i goffâd mewn parch gaiff o.
E ddiweddodd ei ddyddiau—mewn heddwch
Mwyneiddiaf, heb ofnau;
Y mae yn awr yn mwynhau,
Ei delyn mewn gwlad olau.