Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/76

Gwirwyd y dudalen hon

Ond un gwall, neu ball, na bai,
Yn ei olwg, ni welai:
Yna hael wenau ei hedd,
Dylanwad ei radlonedd,
Yn wlith o fendith o'i fodd,
Ef yn anwyl ddefnynnodd
Yn enaint ar ben anian,
A bodau 'r llawr, mawr a mân.


Haul y wybr a ymlwybrodd—i'w hwyrbarth
Cyferbyn enciliodd;
A'i hwyr wawr a oreurodd—fron Eden,
Yr ardd orlawen, a hardd arliwiodd.


A natur aeth am un tro
I hun y noson honno,
Heb ddolur, llafur, na llid
Rhyfel, nac unrhyw ofid.
Mwynaidd yn ei 'menydd hi
Oedd ei breuddwydion iddi,
Breuddwydion hirion o hedd,
Ac o fwyniant cyfannedd.
Mil o anian mileinig,
Nid oedd un o duedd ddig:
Y llew orweddai'n y llwyn—
Ymarweddai mor addwyn
A'r ddafad, heb frad i'w fron,
A gwâr oedd, fel hydd gwirion;
Teigrod, nid oeddynt egrach
Yn null eu byw na lloi bach;
Un dywalgi dialgar
Ei ystryw am fyw drwy fâr;
Y blaidd mor waraidd wirion,
Ei fryd a'r oen, ar y fron;
Y llwynog ni chynlluniai
Frad i neb, na difrod wnai;