Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/78

Gwirwyd y dudalen hon

Ymsyniai am y seiniad,
O ba lwyth, ac o ba wlad
Y deilliai? pa oedd dullwedd,
Rhyw a maint y rhai a'i medd?
"Wyf yn adwaen," fe nodawdd, "G
ân nef, y mae 'n ddigon hawdd;
O gôr y llys, ysbys wyf,
A dawn pob un adwaenwyf.
Oeddwn yn athraw iddynt
Yn y gân, a'r penna' gynt:
Gan yr lor i'w glodfori,
Oes un, ond a ddysgais i,
Yn medru mwyn glymu 'i glod,
A difyr gân ar dafod?
A dyma 'i daliad imi?
Gofwy o siom gefais i!
Hwy oll yn awr, llawen ŷnt
Yn y swydd ddysgais iddynt;
Hwy yn cydfwynhau eu cân,
A mi 'n greddfu mewn griddfan;
Hwy yn nefol eu golwg—
Wele fi mewn damniol fŵg.


"Ond bod yn was allaswn—eto 'n nef
Tan Ior, pe mynaswn;
A moli gyda'r miliwn,
Yn ddihaint ar y dydd hwn.

"Nofio mewn gwynfyd nefol—allaswn
Yn lle ysu'n ddamniol.
Adyn hyll, o dan hollol—felldithiad,
Gwae anobeithiad, a gwyniau bythol.

"Y gân hon sy'n dig enynnu—'mhoenau
I'm henaid mae'n brathu
Y cof am y gwynfyd cu—a pherffaith,
Yn nefoedd unwaith fum yn feddiannu.