Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/80

Gwirwyd y dudalen hon

Y rhai glân sy'n rhoi 'i glod—allan yno,
A'u dwyn oddiarno, wel dyna ddyrnod."
Y drwg elyn draw giliai
I'w ymdaith, ac ymaith ai.
Fe wylltiai fel llem fellten
Ar ei nawd drwy fro y nen,
A'i olwg craff, treiddgraff trodd,
I'r iselion, arsylwodd
Ar fydoedd afrifadwy
Hwnt oedd—aeth heibio hwynt hwy,

Nes y daeth i'r Llwybr Llaethog—helaeth,
A'i heuliau tylwythog,
A'r llysoedd tra lluosog,
A gair yn ei grair yn grog.

Ar brif haul yr wybrfa hon,
Disgynnodd, safodd yn syn,
Holl ser ewybr y llwybr llon,
A nododd mewn munudyn.

Gwelodd un, gwyliodd honno,
Ail graffodd, edrychodd dro,
Uthr oedd, a dieithr iddo,
Ei gwedd yn ei olwg o.
Ymlwybro hyd ymyl wybren
Y Llwybr Llaeth a wnaeth drwy 'r nen

A'i orsaf nesaf a wnai—ar y lloer,
O'r lle yr arsyllai;
Ac i'w olwg y gwelai—y byd glân,
Llid ei hen anian danllyd enynnai.
Fel llew cryf, hyf ar 'sglyfaeth,
Rhoi naid i'r ddaear a wnaeth,
Chwiliai, olrheiniai bob rhan,
Ysbiwr cyfrwys buan;