Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/82

Gwirwyd y dudalen hon

A chwai y deuai 'n ei daith
I fro Eden ar fradwaith.

A chanfu Adda ac Efa gyfion,
Dan bren y bywyd, hyfryd eu dwyfron,
Yn huno 'n wyl, a'r mwyniawn awelon
Yn eu hanwesu eill dau'n hynawsion;
Mawr eu hurddas, mor heirddion—oedd y ddau,
Byd a neuaddau y bodau newyddion!

Satan ai yn nes eto—i'w golwg
Eilwaith, dan glustfeinio;
Ef ennyd safai yno—eu tegwch
Hwy a'u dedwyddwch oedd syndod iddo.

Dirgelwch eu heddwch hwy,
Hwn ydoedd annirnadwy
Iddo ef—ni wyddai fod
Hyd yma, un cydamod
Yn Eden, ar y pren praw'
Ar Addaf, roi Ior iddaw:
Ddu ellyll, ni ddeallai
Pa fodd i'w tripio i fai.

Adda ar y boreuddydd,
Ag awel dawel y dydd,
Ddeffrodd, a galwodd ei gu
Efa anwyl i fyny.

Clybu Satan eu hymddiddan,
E dd'ai allan yn ddeallol,
Am yr unig bren nodedig,
Gwaharddedig arwyddiadol.
 
Cadd yr allwedd i'w feddiant,
'N ol chwim ei uffernol chwant:
I'w bell daith, tua'i bwll dwfn,
Unionodd i'w hen annwfn,