Tyngent ryfel trybelid.
Yng nghwrdd llawn angerdd eu llid,
Yn erbyn nef, ac hefyd
Holl anian gyfan i gyd.
Y dydd hwnnw mewn diddanwch-dreilid,
Rheolai gwir heddwch;
A duwiolaidd dawelwch-dibryder,
Heb arw drawster, a barai dristwch.
Hedd yn dal ei deyrnwialen,
Fyny roedd y faner wen.
Ar godiad tywyniad haul
Yn nôr y dwyrain araul,
D'ai angylion, ar awelon,
Yn westeion hynaws duedd;
I'r dyn weithion, ei gymdeithion
Fu hael fwynion nefol fonedd.
Iehofa ddeuai hefyd
I fwyn ymweled â'i fyd,
A'n dedwyddol dad Addaf,
Mewn purdeb yn wyneb Naf,
Llawenhâi yn llawn o hedd,
Addolwr díeiddiledd:
Duw Ion oedd ffynnon hoff hedd,
Digonedd ei deg enaid,
O'r hon yr yfai yn rhydd,
O lawenydd ei lonnaid.
Ond wele! 'r diwrnod olaf
I ddyn oedd, ac i Dduw Naf,
I'w gweled gyda'u gilydd
Yn Eden fro 'n rhodio 'n rhydd.
Wedi i'r lor ado'r ardd,
I honno, Satan anhardd
A ddaeth mewn bradwriaeth dig,
Lew uffernawl a ffyrnig,-