Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/86

Gwirwyd y dudalen hon

Saethau'r cerubiaid i'w henaid wanent,
I'w hannwfn ffiaidd mewn ofn y ffoent.
Yn archolledig, ac erchyll udent.
Y milwyr nefol yn ol annelent,
Draw i Baradwys drwy y wybr ehedent;
O fro Eden, y dyn ddiofrydent
Yn noethaf alltud, a'r pyrth a folltient;
Ar Addaf, gwg arwyddont—eu cledd chwyrn,
Diysig gedyrn, a gydysgydwent.


Dyna ddiwedd ar heddwch—a dechreu.
Oes dychryn a th'wllwch;
Flineiddiaf aflonyddwch,
Gorthrymder, pob trawster trwch.

Yn lle heddwch a llwyddiant—ow! malldod,
A drain melldith dyfant;
A chwyn cenfigen a chwant,
Hyd wyneb y byd daenant.


Llidiai anianawd llewod yn union,
Aent yn gwerylus, rhuent yn greulon:
Llewpardiaid, bleiddiaid, eirth, teigriaid hagron,
Am waed yn awchus ygus ffyrnigion;
Noethi en dannedd weithion—wnant beunydd,
I herio 'u gilydd, gynddeiriog alon.
A nwydau rhyfel mewn adar hefyd,
Yn awr enynnent yn yr un ennyd—
Eryr, barcutan, a'r gigfran goegíryd,
A llawer iawn o rai gwydlawn gwaedlyd,
Yn llidiog fradog o fryd—a llawn byw,
Eon haid afryw, i wneyd diofryd.


Ond Ow! dyn! i hwn, do, daeth
Ofnadwy gyfnewidiaeth.