Natur wedi suro—daear a nen
Droai 'n awr i'w hwtio ;
Pawb mewn llid i'w ymlíd o,
Ac â dwrn caead arno.
Elfennau rhyfel i'w fynwes—neidient,
Berwai 'i nwydau 'n ffwrnes;
Prawf fu arno, profai ernes,
O drueni, nid trwy hanes.
Rhuo 'n nerthol erwin arthes,
Wnai ei daer gydwybod eres;
Iddo i lechu, nid oedd loches—rhag sain
A germain ei gormes.
Ond Ion a roes hen aden rasol
Ei wir drugaredd rad ragorol,
Yn awr yn noddfa i'r anneddfol,
Y dyn du, euog, tlawd, andwyol.
Yn y dwl gwmwl, ymgamai—y bwa
Uwch ben, ac arwyddai
Gymod am bechod a bai,
Ael anian ail ymlonnai.
Ac o'r addewid, gwawr ddeuai—allan,
A'r t'wllwch a giliai;
Yna llid y storm ai'n llai,
Hael wyneb nef lawenai.
Had y wraig ddai 'n graig fawr gref—sylweddol
Sail heddwch a thangnef;
Ail unir Duw 'r oleunef
A dyn eto ynddo ef.
Ail enir holl hil anian—odd' uchod,
Heddychir y cyfan;
Yn un oll o hyn allan,
A'r byd mewn gwynfyd a gân.