Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/9

Gwirwyd y dudalen hon

yn Lerpwl, a gwraig, a dwy ferch "bron ar derfyn eitha'r daith." Ac efe'n fab pedwar ugeinmlwydd, dechreuodd ei gorff hardd a chadarn adfeilio. A phan roddwyd ef i huno yn Lerpwl, Tachwedd 3ydd, 1883, teimlodd Cymru ei bod wedi colli gwasanaeth un o'i chymwynaswyr pennaf.

Feallai fod ereill wedi rhagori ar Wilym Hiraethog mewn cyfeiriadau neillduol,—yr oedd Henry Rees yn bregethwr mwy, ac Eben Fardd yn fardd mwy, ond gellir dweyd mai efe yw'r mwyaf amryddawn o holl ŵyr mawr Cymru. Y pulpud, yr areithfa, y cylchgrawn, y papur newydd, y nofel, gwleidyddiaeth a llenyddiaeth Cymru,—ni fuasai yr un o honynt y peth ydynt heddyw onibai am Hiraethog. Cyhoeddwyd cofiant iddo, dan olygiaeth Scorpion a Dewi Ogwen, gan Mr. Hughes, Dolgellau, yn 1893. Y mae ei weithiau ymhob ffurf,—mewn cyfnodolion a newyddiaduron, ac mewn cyfrolau niferus, wedi eu cyhoeddi mewn amrywiol leoedd, ond yn bennaf yn swyddfa Mr. Gee, yn Ninbych. Yn y swyddfa honno, a fu ac y sydd yn gymaint bendith i Gymru, y cyhoeddwyd y rhan fwyaf o'r hyn sydd yn y gyfrol hon.

OWEN M. EDWARDS.
Llanuwchllyn,
Mehefin 21, 1911.