Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/92

Gwirwyd y dudalen hon

Cry' sain yr udgorn, cras yw,
Uwch y wlad uchel ydyw:
Llais angeu 'n arllwys ingoedd—
"Gwaed! gwaed!" yw ei lais ar g'oedd.
Y meirch a glywant, adwaenant donau.
Udgorn y rhyfel, a'i uchel awchiau;
Ymennyn weithian mae'u hanian hwythau;
Heda 'u gweryriad hyd y gororau.
Llidia ffriw anwar eu tanllyd ffroenau,
Yn ail i ffyrnig enynnol ffwrnau:
Cloddiant yn addig à'u cyrnig garnau,
Y maes a drychant, dyrchant dywarchau;
Terfysg, a chlanciant arfau—wna 'u hanian,
Mal gwaew trydan rhwng mil o gatrodau.
Saethau a gwrthsaethau sydd—ar gerdded,
Hwynt heb eu gweled, ant heibio 'u gilydd,
Gan gyrchu gwanu trwy'r gwynt,
Dynion a gwympir danynt,
Yn dyrrau, fal y cydorwedd
Pabwyr neu wair, pawb 'r un wedd,
Wedi i'r bladur ddur ddarwain,
Yn ei rhwysg ei min drwy rhai'n.
O! yr alaeth mawr welir!
Dyna waith ofnadwy 'n wir I
Archoll i fron erchyll fraw,
Dro'i galon draig i wylaw.
E lychwinir yr irwellt,
Cochliwia 'r gwyar y gwellt:
Gwylltio mae'r cadfeirch gwalltawg,
Waeth—waeth ant, rhuthrant y rhawg
I'r aer, dan groch weryru
Treiddiol lais trwy y ddau lu;
Carlamant, hyrddiant mewn twrdd,
A'u llygaid erchyll agwrdd,