Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/97

Gwirwyd y dudalen hon

Llu o gyrff mewn pyllau gwaed,
Orweddynt yn eu rhuddwaed.
Clywai gwynion dyfnion, dig,
Adwyth y rhai clwyfedig
A drengent mewn dir ingau—ysgeler,
Rhai'n bloesg alw'u mamau—
Rhai eu gwlad, rhai eu tadau—wnaent sisial,
Ow! a llesg fwngial yn llosgfa angau.
Yma nid oedd mam neu dad,
Na chwaer, na brawd, na chariad,
Na phriod yn dyfod i
Ystyried mewn tosturi.

Ysglyfus wydus adar,—a'u crochlais
Ysgrechlyd i'w gwatwar;
A dynol williaid anwar,
Allan fil yn llawn o far.

E ro'i Mair ar lawer min,
Yn ei loesau, feluswin;
Llaesodd, e ddofodd y dda
Angyles eu hing ola'.
Ar ei gwaith yn rhoi y gwin,
Gu lwysferch, ar un glasfin,
Ow! Mair, hi glywai 'n y man,
Ei henw hi ei hunan,
O fethiantus wefus wan,
Yn deilliaw 'n sibrwd allan!
Mair fad sychai'i llygad llaith,
1 sylwi 'n graffus eilwaith
Ar wyneb y truanwr,
A'r gwaed oddiar ruddiau'r gwr.
Pan sychai, adwaenai 'r dyn,
Hwn ydoedd ei mwyn Edwyn!
Galwodd, hi alwodd eilwaith,
O lef serch, wylofus iaith—88