Tudalen:Gwaith-John-Hughes-CyK.djvu/11

Gwirwyd y dudalen hon

"Yr haf sydd wedi pasio,
A'r cynhauaf heibio aeth,
Ac ni nid ym gadwedig,
Ond wedi'n bwrw'n gaeth."

Mae'n chwith fod rhai'n diystyru
Pregethu Iesu Grist;
Beth yw ond gwrthod nefoedd,
A dewis uffern drist?
Bydd gwyr Ninife'r un bregeth,
A brenhines Seba draw,
Yn ei condemnio'n hynod
Ryw ddiwrnod nawr a ddaw.

Er cimaint sydd o bregethu,
Mae amal bechu'n bod,—
Balchder, lladd, a lladrad,
A ledrith dan y rhod;
A gwyro barn am arian,
Gorthrymu'r egwan rai,
Godineb, maswedd, meddwdod,
A chybydd-dod, a phob bai.

Daeth dialedd Duw gan drymed
Ar y paganiaid draw
Sy heb glywed am ddrwg pechod,
Och, och, pa beth a ddaw?
O drigolion gwlad yr efengyl
Sy'n troi gwegil at y gwir,
Rhyfedd fod Duw'n dyoddef
Y cyfryw ar ei dir.

Mae Duw'n ddig, diamal,
Am eu pechodau hwy
Ond y mae i bechodau Seion
'N anfoddlawn lawer mwy;