damnedigaeth yr annuwiolion yn hollawl arnynt eu hunain, heb fod gan Dduw un llaw ynddo, oblegid fod y rhwystr o'u hachubiaeth, sef gwrthodiad eu hiachawdwriaeth, i gyd ynddynt eu hunain ; ac fe fydd y clod am achub yr etholedigion i gyd i Dduw, oblegid iddo faeddu eu cyndynrwydd a'i ras a'i gariad.
II. Dyoddef Crist. Nid yngwaith Crist yn dyoddef yr oedd y Tad yn cael ei foddloni fwyaf, ond yn ei foddlonrwydd i ddyoddef.
III. Y ddisgyblaeth, mater Sasiwn Caernarfon. Eisiau ysbryd efengylaidd i geryddu. Dywedodd un hen frawd,—"Pan welid proffeswr y dyddiau aeth heibio dywedid yn union 'O wyneb y gwr drwg,'—delw Duw yn ymddangos yngwyneb y proffeswr yn cynhyrfu'r elyniaeth oedd yn y llall i'w gablu." Dau balas cyfagos, ty gwr bonheddig a thafarndy; dyn budr aflan yn myned i mewn i un. Pam? Y sein wrth ben y drws. Geneth dduwiol yn gwrando ar fachgen annuwiol.
IV. Edifeirwch; y ffugiol a'r gwir.
V. Pechod dirgel. Aros yn y tân sy'n llosgi.
VI. Gwaith yr Yspryd Glan. Goleuo'r enaid. Ail enedigaeth.
ARGLWYDD dyro dy Yspryd
HYMN AR DDYDD NADOLIG.
ARGLWYDD dyro dy Yspryd
I hyfryd gadw gwyl,
I ganu mawl in Ceidwad
Gwna ein henaid oll mewn hwyl;
Duw y sy'n uwch na'r nefoedd,
Y baban gwael tlawd,
Fu'n gorwedd yn y preseb,
Ein brenhin mawr a'n brawd.