wyddoch chwi pwy ydyw ef?" "Na wni yn y byd." "Wel, mae fe'n Fethodist anghyffredin." O ai e? Os felly, nid oes dim a wnelwyf fi ag ef."
Gellir edrych ar yr Arglwydd yn ei ras a'i drugaredd, ac oddiar y golwg hwnw meddwl ein bod yn ei garu; ond erbyn edrych arno yn ofnadwy mewn sancteiddrwydd, a bod ei gyfraith yn hollawl groes i'n natur ac yn ein condemio ni i dragywyddol gospedigaeth oni chawn ein dwyn i mewn i delerau'r cyfamiod gras, dyna iaith calon pawb wrth natur,—"Gwr tost yw." Os meddyliwn ein bod yn caru'r Arglwydd yr yr olwg ar ei drugaredd yn unig, heb allu ei garu yn yr olwg ar ei gyfiawnder a'i sancteiddrwydd, caru ein hunain yr ydym felly, nid caru Duw.
Yma daw cofnodau yr" Awstiat Fisol" gynhalwyd yn y Llechwedd, plwyf Trefeglwys, Ion. 19 a 20, 1801. Am berson Cristy siaredid
Sylwyd hefyd na ddeil gwybodaeth hannesol neb yn wyneb treial, mwy nag saif llong heb falastr neu bwysau ar y môr yn wyneb y gwyntoedd a'r tamhestloedd.
Daw dau lythyr cyntaf Ann Thomas yna yn cyfres arall o emynnau.
HYMN 1
Os cofiwyd yn yr arfaeth
Am un mor wael a mi,
A thalu fy holl ddyled
Ar fynydd Calfari;
Anfeidroi drugareddar,
Effeithiau'r cariad mawr,
Rhyfedded nefoedd uchod,
A syned daear lawr.