O na bawn i'n medru byw
Ar efengyl;
Cadw fy enaid, O fy Nuw,
Yn dy ymyl.
Calon wrthgiliedig gas
Wy'n ei gario;
O fy Arglwydd, dyro ras
i'w chongcwerio ;
Na ad ini dreilio fy oes
'Ngwlad y gogledd,
Dwg fi i olwg angau'r groes,
Lle mae rhinwedd.
Hymn 6, "Mae swn y clychau."
Hymn 7, "Gwelai'n sefyll."
Hymn 8, "Cofia ddilyn y medelwyr."
Wrth edrych yma ac edrych draw
HYMN 9
Wrth edrych yma ac edrych draw,
Ni welai ond tywyllwch du,
Nes y caffwyf droi fy ngolwg
Tua mynydd Calfari;
Gwelai yno wawr yn codi
Eiff yn y man yn hyfryd ddydd,
Cwyd yr haul a ffu'r tywyllwch,
Llawenha, fy enaid prudd.
Pan fyddo'n dywyll tua Seinai,
Hi a oleua o Galfari,
Er fy mod yn ddwfn bechadur
Mae yno gysur byth i mi;
Clywai swn y gair - Gorphenwyd"
Yn uchel seinio'n beraidd lawn,
"Rhyddid, rhyddid," medd Cyfiawnder,
"Mi a gefais berffaith iawn."