Tudalen:Gwaith-John-Hughes-CyK.djvu/24

Gwirwyd y dudalen hon

Dyma wynebddalen yr ail ysgriflyfr—

CRYNODEB NEU GASGLIAD O AMRYW

SYLWIADAU AR BETHAU YSPRYDOL.

Ioan ap Huw, athraw ysgol Gymraeg yw ysgrifenydd a meddianydd y llyfr hwn, yn y flwyddyn o oed ein Harglwydd 1804. Llanidloes. Hydref 20.

"Y mae diwedd ar bob perffeithrwydd, ond dy orchymynion di syda dra ehang."

——————————

COFNODAU Cymdeithasfa Dolgelle, am swydd frenhinol Crist 1803. Sylwiwyd mai rhyw gyfnewidiad rhyfedd yw hwn, sef newid y llywodraeth. Rhyw waith rhyfedd o'r nerthol raid fod hyn, tynu'r hen lywodraeth i lawr a gosod y newydd i fyny. "Canys arfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol, ond nerthol trwy Dduw i fwrw cestyll i lawr." Er bod mewn carcharau yngwlad ei gelynion, bod ei hanadl o dy eu Brenhin a'i deyrnas; gall fod yn bresenol rai o ffyddlon ddeiliaid Lloegr mewn carcharau yn Ffraingc, etto ai lystiant dan faner y penaeth, ac ni wisgant ei lufrau na'i arfau, am fod eu calon o blaid eu gwlad.

Cofnod asotiat brivat yn Mwlch Aeddem.

Dwyfol osodiad Crist ir swydd gyfryngol.

Yn ddyn bach yn rhy anabl i ymgynal ac i gerdded, er ei fod o ran ei dduwdod yn dal y bydoedd..... Yr oedd Crist, pan oedd tan y gwarth mwyiaf yn y byd, yn llenwi'r nefoedd a'i ogoniant. Un person dwy natur. ...

Cofnodau Cymdeithasfa Llanidloes, ar swydd offeiriadol Crist. 1803. . . . Cofnodau Cymdeithasfa Dolgelle, 1802. . . . Cofnodau Cymdeithasfa