Tudalen:Gwaith-John-Hughes-CyK.djvu/29

Gwirwyd y dudalen hon

Copi o lythyr a anfonwyd gan—at—

Mai 27, 1803

ANWYLAF CHWAER,

Yr wyr yn anfon hyn o leiniau atat gan obeithio y byddi yn ei derbyn mewn iechyd a thangnefedd. Am helynt bresenol fy ysbryd, myfi a feddyliwn nad wyf heb i ryw raddai'n feunyddiol., am adnabyddiaeth o'm gwaeledd a'm pechadurusrwydd ac o ddigonolrwydd yr iechydwriaeth fawr yNghrist i'm bath. Dymunwn gael treilio gweddill fy nyddiau tan y gorchwyliaethau o ladd a bywhau. Ond caei bod dan y driniaeth hon, ni bydd parch ac anmharch, clod ac anghlod, adfyd a hawddfyd, ond pethau o ychydig bwys yn fy ngolwg. Pa bo pethau tragwyddol gyda phwys yn y golwg. y maent yn llyngcu pethau presenol i'r dim mewn cydmariaeth â hwynt.

Mae'r gair sydd yn y Dat. 2. 4 ar fy meddwl i sylwi ychydig arno,—Edrych o ba le y syrthiaist ac edifarha. Cyn y byddo'n besibl i ddyn syrthio o unlle, mae'n rhaid ei fod unwaith yn sefyll yn y lle hwnw o ba un y mae'n awr wedi syrthio. Er nad oes fodd i neb a wir unwyd unwaith a Christ syrthio i gyflwr colledig, etto hwy a allant syrthio'n mhell o'r peth y buont unwaith o ran agwedd, bywogrwydd eu hyspryd, grym a gwresogrwydd eu cariad. A syrthio yn yr ystyr hon, mae'n ddiameu, a feddylir yma. Y mae'r gair ymadael a'r cariad cyntaf yn dangos hyny yn eglur. A phan y mae'r Arglwydd yr galw arnom i edrych o ba le y syrthiasom, y mae'n rhaid i ni ddeall fel hyn,—"Cofia, edrych, ystyria'r peth a fuost a chydmara hyny a'r peth ydwyt yn awr. Yna y gweli nad ydwyt yn cynyddu,