mae'r Salmydd yn adrodd am danynt. Gallwn farnu iddynt farnu yn ormod gorchwyl i Dduw ei dwyn i'r wlad a addawsai iddynt. Am hyny, medd Paul, Heb. 3. syrthiodd eu cyrph yn y diffaethwch ac ni allent hwy fyned i mewn oherwydd anghrediniaeth. Sylwa a myfyria ar y pethau hyn, a gwel fawr ddrwg yspryd deddfol ac angrhediniol.
DIWEDD
COFNODAU CYMDEITHASFA DOLGELLEU.
Hydref 26, 27, 1814.
Dau o'r gloch y dydd cyntaf.
1. Penderfynwyd na byddai i neb argraffu marwnadau, &c., heb genad y Gymdeithasfa.[1]
2. Penodwyd ar Mr. Jones, Dimbych, i ysgrifennu hanes bywyd Mr. Charles o'r Bala. [2]
3 Anogwyd i ddilyn ei rinweddau yn mhobpeth.
4. Am yr Ysgolion Sabothol. Yn 1. Fod pob athrawon yn dosparthu eu hardal i fyned i gymell pob oedran i'r ysgol. Yn 2. Y byddai yn fuddiol i'r athrawon ddyfod ynghyd haner awr cyn dechreu'r ysgol. Yn 3. Fod pob ysgol i ddechreu trwy ddarllain gweddio, a diwedd trwy weddi. Yn 4. Fod pob athrawon yn ymdrechu i
- ↑ Yn ei ragymadrodd i Gofiant Owen Jones o'r Gelli, dyddiedig Chwef. 27. 1830. dywed John Hughes.—"Yr wyf yn golygu fod Marwnad neu Gân o alar yn fwy addas yn niwedd hanes bywyd gwr nag yn Ganuan arni ei hun; canys y mae Marwnad arni ei hun, nid yn unig yn myned yn rhy debyg i Ffair-Gathl, ond hefyd weithiau yn Ffair-Gathl, yr hyn nid yw weddus i fod am weinidogion yr efengyl."
- ↑ Bu Mr. Charles farw Hydref 5, 1814