Tudalen:Gwaith-John-Hughes-CyK.djvu/37

Gwirwyd y dudalen hon

oedd yn y gymydogaeth, yr hon, mae yn debyg, oedd heb fedru darllen ei hunan, ymaflodd yn ei feddwl ddwys-ystyriaeth o'r anghenrheidrwydd am feddu gwir grefydd. Ond y modd yr oedd yn bwriadu cyrhaedd hyny oedd trwy fynych gyrchu i eglwys y plwyf, gan adrodd tywydd ei feddwl wrth yr offeiriad, yr hwn a ymddygai yn serchog tuag ato, a dangosai lawer o barch iddo: Ond er hyny nid oedd ei gynghorion iddo yn feddyginiaeth gymhwys i enaid argyhoeddedig, sef ei gynghori i ymarfer a difyrwch cnawdol, i gael ymlid ymaith bob meddyliau pruddaidd a thrymion. Wedi cael ei siomi yn nghyfeillach yr offeiriad, ymroddodd i ddyfod i Ben llŷs i wrandaw gweinidogaeth pregethwyr y Methodistiaid; a thrwy y cyfryw foddion, cafodd yr ymgeledd ag yr oedd yn teimlo anghen am dano, a chynnygiodd ei hun yn aelod o'r cyfryw blaid grefyddol, a chafodd dderbyniad serchog.

Yr oedd John Thomas, ieuangaf, yn ddyn o dymher ddystaw, dwys, a serchogaidd, ac yn syml a thra difrifol yn ei agwedd grefyddol. Yr oedd y teulu, am yspaid cyntaf ei broffes ef. yn edrych ar grefydd ynneillduol gyda chryn ddirmyg: er hyny ni ddangosasant gasineb chwerw tuag ato, canys yr oeddynt yn deulu tra serchog tuag at eu gilydd. Ond yr oeddynt yn dangos cryn lawer o ysgafnwawd o'i grefydd ef; ac yr oedd Ann y pryd hwnw yn llawn can waethed yn hyn a neb o honynt, ond yr oedd ei sobrwydd syml ef yn ennill parch iddo yn eu meddyliau. Pan ydoedd mewn cryn drallod meddwl yn achos ei gyflwr ei hun, ac yn achos mater tragywyddol ei deulu, ymneillduodd i'r