ac o olwg lled fawreddog, ac er hyny yn dra hawdd nesau ati mewn cyfeillach a hoffai. Yr Oedd wedi ei chynnysgaethu a chynneddfau cryfion; ond lled wyllt ac ysgafn ydoedd ei hieuenctid. Hoffai ddawns, ac arferai ei doniau i siarad yn lled drahaus am grefydd a chrefyddwyr o Ymneillduwyr. Dywedai yn wawdus am y bobl a fyddai yn myned i Gymdeithasfa y Bala, "Dacw y pererinion yn myned i Mecca," gan gyfeirio at bererindod y Mahometaniaid. Ryw dro, nis gwyddom yr amser, aeth i Lanfyllin mewn bwriad i ddawnsio, pa un ai gwylmabsant neu ryw gyfarfod gwag arall oedd yn bod yno ar y pryd nid ydys yn awr yn gwybod i sicrwydd, ond tebygol mai amser gwylmabsant ydoedd yr adeg. Mwynhau difyrwch cnawdol oedd yn ei golwg hi yn y daith hon, ond peth arall oedd yn ngolwg Duw tuag ati; sef dechreu ymweled a hi yn ol ei arfaeth ei hun, a'i ras, er ei dwyn i fwynhau difyrwch annhraethol well na'r difyrwch gwag ag yr oedd hi yn cyrchu ato. Wedi iddi gyrhaeddyd i Lanfyllin, cyfarfu â merch a fuasai ryw amser yn ol yn forwyn yn ei theulu; cymhellodd hono hi i ddyfod i wrandaw pregeth i gapel yr Annibynwyr, gan ddyweyd wrthi fod yno ŵr dyeithr enwog yn pregethu. Hi a gydsyniodd a'r cais, a'r diweddar Barchedig Benjamin Jones, Pwllheli, oedd yno yn pregethu. Effeithiodd y bregeth ar Ann yn lled ddwys, nes y penderfynodd ymofyn am grefydd, yn lle dilyn gwagedd. Ond ei phenderfyniad y pryd hwn oedd ymofyn am grefydd trwy y moddion o gyrchu yn fwy dyfal i eglwys y plwyf. Y dydd Nadolig canlynol cyfododd yn foreu i fyned i eglwys Llanfihangel'i gyfarfod a elwir plygain.