Tudalen:Gwaith-John-Hughes-CyK.djvu/4

Gwirwyd y dudalen hon

Rhagymadrodd

GANWYD John Hughes yn y Figyn, Llanfihangel yng Ngwynfa, Chwef. 22, 1775. Gwehydd oedd, ond daeth yn un o ysgolfeistri Charles o'r Bala; a bu'n athraw yn Llanwrin, Llanidloes, Berthlas, Llanfihangel, a Phont Robert. Bu'n lletya yn Nolwar Fach: a thrysorodd ar hyd ei fywyd ymddiddanion ysprydol y fesetres ieuanc, ei llythyrau, a'i hemynnau.

Yr oedd John Hughes yn afler ei olwg ac yn aflafar ei lais, ac yr oedd yn gofyn peth craffder i weled ei ddynoliaeth ardderchog, ei amcanion cywir, ai ddyngarwch goruchel. Yr oedd yn efrydydd caled, a'i grefydd yn hawlio holl ymadferthoedd ei enaid. Yn 1802, cafodd ddechreu pregethu gyda'r Methodistiaid. Er gwaethaf ei aflerwch ai dlodi, aeth yn fath o dywysog yn ei wlad. Tlawd fu ar hyd ei oes,—er yr oedfaon grymus a'r teithio diflino, er y gwasanaeth i Wasg Chyfarfod Misol a Chymanfa. A gwelodd pobl sir Drefaldwyn fod mawredd heblaw mewn cyfoeth.

Yr oedd Ann Thomas wedi gweled ei werth, ac yn cydymdeimlo ag ef yn ei ymdrech i gael pregethu'r efengyl. Yr oedd Ruth Evans, morwyn Dolwar a merch Morus Evans o'r Mardy, wedi gweled ei werth hefyd. Un dwt a threfnus oedd Ruth, annebyg iawn i John Hughes. Priodasant o Ddolwar yn Llanfihangel ym mhentymor 1805, ac yr oedd Ann Griffiths yn eu priodas. Yr oedd