Tudalen:Gwaith-John-Hughes-CyK.djvu/42

Gwirwyd y dudalen hon

gryn raddau ar ei hiechyd tra bu byw. Yn mis Hydref, yn y flwyddyn 1804, priododd Miss Ann Thomas & Mr. Thomas Griffiths, [1] brawd i'r diweddar Barchedig Evan Griffiths, Ceunant Meifod. Ynghylch pen deng mis wedi priodi, esgorodd Mrs. Griffiths ar ferch, yr hon a fu farw yn bythefnos oed; a bu farw y fam yn mhen pythefnos ar ol ei merch. Yr oedd Mrs. Griffiths yn ei dyddiau a'i horiau olaf yn dra gwanaidd, a than ddiffyg anadl i raddau mawr, fel nas gallodd lefaru ond ychydig. Dywedai ei bod wedi dymuno lawer gwaith am gael gwely angeu yn adeg oleu ar ei meddwl, ond erbyn myned iddo nad ydoedd yn edrych cymaint ar hyny; ond ei bod yn cael modd i ymorphwys yn dawel ar gadernid y cyfammod tragywyddol a threfn cadwedigaeth pechaduriaid trwy y Cyfryngwr mawr.

Bu farw yn mis Awst, yn y fwyddyn 1805. Ar ddydd ei chladdedigaeth, casglodd torf lïosog ynghyd, a thraddodwyd pregeth ar yr achlysur gan Mr. Thomas Owens, o'r Bala y pryd hwnw, ond yn awr o'r Wyddgrug, oddiar Col. iii. 4 Hebryngwyd ei rhan farwol gan dorf liosog i fynwent Llanfihangel, hyd ganiad yr udgorn diweddaf, pan ei cyfodir yn anllygredig ac mewn gogoniant. Y boreu Sabboth canlynol, traddodwyd pregeth anghladdol iddi yn nghapel Pont Robert gan y Parch. John Hughes, ar y geiriau "Canys byw i mi yw Crist, a marw sydd elw."[2] Ei hoedran yn marw oedd ynghylch chwech-ar-hugain."

  1. Gwel ei Gofiant yn niwedd Cofiant E. Griffiths
  2. Phil. i. 21