Yn mhen rhyw yspaid ar ol ei chladdedigaeth, aeth Mr. Thomas Griffiths i edrych ei bedd; a chyfansoddodd y pennill canlynol, ac nis gwyddom iddo gyfansoddi yr un arall yn ei oes:—
Bydd yno ryw ryfeddod na welodd dyn eriod,
Er pan y crewyd Adda i'r olaf ddyn fo'n bod;
Y dyrfa yn gwahanu bawb i'w ei le ei hun.
A ninnau yn cael gwledda yn nghwmni Mab y Dyn."
Daeth adref mewn rhyw agwedd dra hynod dan wylo a than ganu. Tystir hyn gan un sydd eto yn fyw, ag oedd yno yn gwasanaethu ar y pryd.
Yn ganlynol, teilwng ydyw coffau rhai o'r pethau hynod a fu yn ngyrfa fêr yr hon y rhoddwyd yr hanes byr uchod am dani: oblegid un hynod ydoedd—hynod o ran cynneddfau eang a chryfion, hynod o ran gwybodaeth ysgrythyrol a phrofiadau ysbrydol; a hynod o ran serchogrwydd, a sirioldeb, a sancteiddrwydd buchedd: yr oedd yn goron o harddwch i'w phroffes. Bu ysgrifenydd y cofiant hwn yn cadw ysgol yn nghymydogaeth Dolwar Fechan, ac yn lletya am amryw fisoedd yn Dolwar Fechan; a rhagorfraint nid bychan oedd cael cartrefu am yspaid yn y fath deulu serchog a gwir grefyddol. Yn yr yspaid hwn, bu lawer o weithiau am amryw o oriau ynghyd yn ymddyddan ag Ann am bethau ysgrythyrol a phrofiadol, a hyny gyda'r fath hyfrydwch, hyd oni byddai oriau yn myned heibio yn ddiarwybod: ac ar ol iddo ymadael oddiyno y derbyniodd y llythyrau a welir yn y diwedd oddiwrthi, y rhai sydd, fel eu gwelir, oll o natur grefyddol.
Un hynod ydoedd mewn diwydrwydd i weddïau dirgel, a hynod ei hymdrechiadau ynddynt. Byddai ar brydiau yn cael y fath ymweliadau