Tudalen:Gwaith-John-Hughes-CyK.djvu/45

Gwirwyd y dudalen hon

chyfeillgar. Am ryw adeg, sylwodd morwyn grefyddol oedd yno y pryd hwnw, ei bod i ryw radd yn tueddu i agwedd mwy ysgafnaidd wag a fyddai arni yn gyffredin: a gwnaeth yn hysbys iddi nad oedd ei hagwedd mor ddifrifol ag y byddai yn arferol o fod: a bu hyn yn ofid dwys ac yn drallod trwm i'w hysbryd; yr hyn sydd brawf amlwg o dynerwch ei chydwybod. Diolchodd i R. H. am ddyweyd wrthi; ie, diolchodd i'r Arglwydd am roddi ar ei meddwl ddyweyd wrthi. Anfynych y mae y fath gyfeillach agos mewn ystyr grefyddol rhwng meistres a morwyn ag oedd rhwng Ann ag R. H. am y pedair blynedd y bu yno yn gwasanaethu.

Byddai Ann ar brydiau yn myned i'r Bala at y Sabboth y byddai swper yr Arglwydd yn cael ei weinyddu yno gan y diweddar Barch. T. Charles; oblegid tra anfynych yr oedd yr ordinhad hono yn cael ei gweinyddu yn Mhont Robert y pryd hwnw, pan nad oedd neb ond yr offeiriaid a berthynent i gorff y Methodistiaid yn gweinyddu yr ordinhadau o fedydd a swper yr Arglwydd. Un tro, wrth ddychwelyd adref o'r Bala, dylanwyd ei meddwl a golygiadau ar ddirgelwch y Drindod, ac ar ddirgelwch a gogoniant person Crist, a'r dedwyddwch o gael myned i'w weled fel y mae a bod yn gyffelyb iddo, a bod yn wastadol gydag ef, hydoni lynewyd ei myfyrdodau mor lwyr, fel na wybu ddim am dani ei hun nes dyfod dros Ferwyn, i flaen plwyf Llanwddyn, yr hyn oedd ynghylch pum' milltir o ffordd, a hyny ar anifail a fyddai yn arfer bod yn gryn afreolus. Y pryd hwnw y cyfansoddodd y pennill canlynol:—