yn bresennol. Wrth wrandaw pregeth yn ei chartref un prydnawn Sabboth, torodd allan mewn gorfoledd, gan adrodd y geiriau canlynol gyda llewyrchiadau tra thanbaid a grymus—"Y mae fy enaid yn mawrhau yr Arglwydd." Ac ar ddyledswydd deuluaidd y noswaith hono, torai allan mewn modd rhyfeddol, gan adrodd y geiriau uchod drachefn a thrachefn, a dywedyd hefyd drachefn a thrachefn, "Arglwydd gwerthfawr!" Yr oedd y fath amlygiadau o fawredd Daw yn tywynu i'w meddwl hyd onid oedd geiriau yn pallu, a iaith yn methu gosod allan olygiadau ei meddwl.
Y mae o Ddolwar Fechan i Bont Robert ynghylch pedair milltir o ffordd; a byddai yn aml o un-ar-ddeg i hanner nos cyn y cyrhaeddent adref. Er hyny nid aent i'w gorphwysfa heb gadw addoliad teulaaidd. Ni byddai y teulu crefyddol hwn yn esgeuluso moddion na chanol dydd na nosweithiau gwaith, ond yn unig yr hyn oedd anghenrheidiol i warchod y ty, a hyny yn rheolaida bawb yn ei dro. Yn y dyddiau hyny yr oedd cyfarfodydd gweddio yn cael eu cadw yn holl addoldai y Methodistiaid am naw o'r gloch bob boreu dydd Mercher, yn achos y rhyfel blin oedd rhwng Brydain a Napoleon Buonaparte a'i bleidwyr. Yr oedd amgylchiadau y deyrnas yn hyn yn cael lle mawr iawn ar feddylian Ann; a byddai yn rhagori ar y cyffredin yn ei dull gafaelgar yn ymbil ar Arglwydd y lluoedd yn yr achos hwn. Bwriadodd Ann unwaith ysgrifenu dydd-lyfr, i gadw coffadwriaeth o'r ymweliadau a'r profiadau a fyddai yn gael; ond yn lle cyflawni y bwriad