5. Pan fyddo'r byd yn llosgi,
A'r byd yn berwi'n bair,
Bydd canu a melys byngcio,
Gan gofio am y gair
Lefarwyd ar Galfaria
Gan Iesu, brenhin nef,
Tragwyddol swn y dyrfa
Fydd bloeddio "Iddo Ef."
Er herian fy nghelynion
HYMN 12.
Er herian fy nghelynion
Ar uchel fanau'r maes,
A phledio yngwyneb pechod
Na syfl cyfamod gras;
Rwy'n cael fy erchyll faeddu,
Ond eto er hyny 'n fyw,
A hyn o rad drugaredd,
Un rhyfedd iawn yw Duw.
Ces fyned i ben Pisca,
Ces weled tir fy ngwlad,
Bum wedi mewn amheuaeth
O'r etifeddiaeth rad;
O maddau, Arglwydd, madda,
A dyro imi ffydd,
I gredu pan fo'n dywyll
Fel yngoleuni'r dydd.
Y fi sydd yn cyfnewid,
Ond Duw sydd 'r un o hyd,
Eu addewidion a gyflawna
Er gwaetha meiau i gyd:
Fe gadd ei lwyr foddloni
Ar ben Calfaria fryn,
Ac yn yr aberth yma
Yr a'r Ethiop dua'n wyn.