Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/102

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae'n rhaid ei yfed, gyfaill cu,—
Cewch fêl cyn dod i'r gwaelod;
Mae olwyn fawr Rhagluniaeth Duw
Yn llawn o lygaid goleu,
A gweld mae'r Hwn sydd wrth y llyw
Y diwedd cyn y dechreu.

Mae'r holl sirioldeb yn y nef,
A'r dagrau ar y ddaear,—
Mae yno'n foliant "Iddo Ef,"
Ac yma'n llawn o alar;
Mae hwn yn fyd i gario'r groes,
Mae yno'n gario'r goron,
Mae'r wylo i lawr ym myd y loes,
A'r gân tu hwnt i'r afon.
Chwef., 1875.

CWSG, FILWR, CWSG

("Rest, warrior, rest,"—SIR W. SCOTT)
(Y gerddoriaeth gan Mr. J. H. Roberts, Mus. Bac., Cantab).

Cwsg, filwr, cwsg, aeth heibio'th gur,
Cwsg yr hûn na ŵyr am ddeffro,
Darfu tynnu'r cleddyf dur
Ddydd a nos mewn gwaed a chyffro;
Taena dwylaw duwies hedd
Esmwyth flodau ar dy galon,
Ac o gylch dy dawel fedd,
Clywir adsain cân angylion;
Nid oes gyffro yn dy fron,
Darfu rhu a thwrf magnelau,
Ond mae ar dy wyneb llon
Gysgod adgyfodiad golau.