Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/121

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dychymygais mewn mynydyn
Fod angylion Gwynfa lân,
Rhwng eich dysg, eich moes, a'ch doniau,
Yn eiddigus wrth eich cân.

O! DEDWYDD BOED DY HUN

("Oh! happy be thy dreams")

O! dedwydd, dedwydd, bo dy hûn,
Llawn o ddedwyddwch fo'th freuddwydion di;
Y bryniau aur sydd byth dan heulog hin,
A'r awyr las sy'n ddwyfol glir i ti;
Fry, fry, mae ysbryd pur dy fam,
Draw'n gwylio dros dy hûn rhag it' gael cam,
Mor bur a'r ser sy'n gwylio dros dy lun,
O! dedwydd, dedwydd, bo dy hûn.

O! dedwydd, dedwydd, bo dy fywyd di,
Mae'th fam yn gwylio'th gwsg o'r nef yn awr;
A'r llaw fu'n arwain hon i'r gwynfyd fry
Fo eto i'th arwain di trwy'r cystudd mawr;
Bydd llygaid engyl gyda llygad mam
Byth, byth, i'th gadw rhag cael unrhyw gam,
Cwsg tra mae'r ser yn gwylio uwch dy lun,
O! dedwydd, dedwydd, bo dy hûn.