Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/14

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HEN ADGOFION


O na chawn fynd yn ol ar hynt
Drwy’r adeg ddedwydd, iach,
I brofi y breuddwydion gynt
Pan oeddwn blentyn bach;
Cawn syllu eilwaith oriau hir
Ar flodau gwanwyn oes,
Ac ail fwynhau ei awyr glir
Heb gwmwl du na loes.

O na chawn dreulio eto’n llawn
Yr adeg lon, ddi-gur,
Pan gylch fy llwybrau fore a nawn
’Roedd blodau cariad pur;
Nid yw ond megis ddoe o’r bron
Im gofio ienctid ffol;
Ond dyma sydd yn rhwygo ’mron,
Ddaw’r adeg byth yn ol.