Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/21

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wrth weld fod pethau'n troi fel hyn,
Dechreuais fynd o ’ngho’,
A dywedais yn fy natur ddrwg
Na wnai hi byth mo'r tro;
Dechreuai ’i thafod hithau fynd
I drin a hel o hyd,
Ac nid yn unig hi ei hun,
Ond unai’r lleill i gyd.
"Peidiwch byth rhoi y goreu iddo,"
meddai ei thad, &c., &c.
Medi 13, ’75.

GORNANT FECHAN

(Goethe)

Gornant fechan, loew, dlôs,
Treiglo’r wyt y dydd a'r nos;
Beth yw’th neges? Beth yw'th nôd?
I ble yn mynd?—O ble yn dod?

"’Rwy'n dod dros greigiau erchyll draw,
'Rwy’n gadael dolydd ar bob llaw,
Gan dynnu darlun ar fy mron
O’r cwmwl gwyn a'r nefoedd lon.

"Yn llawn plentynaidd ffydd 'rwy'n mynd,
Ond i ba le, nis gwn, fy ffrynd;
Yr Hwn rodd fod i'm dafnau llaith
Yw'r Hwn a’m harwain hyd fy nhaith.

Mai 18, 1877