Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/26

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

EISTEDD MEWN BERFA

Tra'r oeddwn yn rhodio un diwrnod,
A'r haul yn tywynnu mor llon,
Mi ddaethum 'nol hir bererindod
I bentref ar ochr y fron;
A gwelwn ryw hogyn segurllyd
Yn eistedd mewn berfa fel dyn,
Gan wneud pob ymdrechion a allai
Ar ferfa i yrru ei hun;
Fel hwnnw yn union mae ambell i ddyn
Yn eistedd mewn berfa i yrru ei hun.

Os gwelwch chwi grefftwr go gywrain
Yn gadael ei fwyall neu'i ordd,
I sefyll tu allan i'w weithdy
I siarad â phawb ar y ffordd;
Neu holi am weithdai'r gymdogaeth
A hanes y gweithwyr bob un,
Heb feddwl am weithio ei hunan
Y gwaith sy'n ei weithdy ei hun;
Mae hwnnw'n lled debyg bob amser i ddyn
Sy'n eistedd mewn berfa i yrru ei hun.

Ceir ambell amaethwr dioglyd
Na welwyd erioed arno frys,
Mae'n well ganddo orwedd pythefnos
Na cholli dyferyn o chwys;
Ni chreda mewn cael ei gynhaeaf
Tra'r haul yn tywynnu ar fryn,
Ond creda mewn gadael ei feusydd
I ofal y gweision a'r chwyn;
Mae ffarmwr fel yna bob amser yn ddyn
Sy'n eistedd mewn berfa i yrru ei hun.