Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/35

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pan fyddo yr aelwyd yn oeri,
A'r anwyd yn dyfod i'r gwaed,
Pan fyddo y trwyn wedi rhewi,
A'r winrhew ar fysedd y traed,
Pan fo Catherine Anne wedi briwo,
A Dafydd y gwas ddim yn iach,
A'r babi yn nadu a chrio,
A'r gath wedi crafu John bach,
Rhowch, &c.

Ion. 3, '73

MI SAETHAIS GAN

(O Longfellow)

Mi saethais gân i fyny i'r ne',
A disgyn wnaeth nas gwyddwn ple,
Can's ni fu 'rioed un llygad llym
All ddilyn saeth ar hediad chwim.

Anadlais gân i wynt y ne',
Aeth gyda'r gwynt nas gwyddwn ple,
Oblegid nid oes llygad glân
All ddilyn llwybrau adlais cân.

'Mhen blwyddau hir mewn calon pren
Y saeth a gefais ar ei phen,
A'r gân a gefais wedi mynd
A glynu i gyd mewn calon ffrynd.