Tudalen:Gwaith Alun.pdf/114

Gwirwyd y dudalen hon

A ddiffydd yr haul am i seren fachludo?
Os pallodd yr aber, a sychodd y môr?
Na, na, fe ddaw bore bydd un Haleluia,
Yn ennyn o'r Gauts hyd gopâu Himalaya,[1]
Bydd baner yr Oen ar bob clogwyn yn India,
O aelgerth Cashgur hyd i garth Travancore.

A hwyrach mai d'wyrion a gasglant dy ddelwau
A fwrir i'r wâdd ar bob twmpath a bryn,
Ar feddrod ein Heber i'w rhoi yn lle blodau,—
Ei gyfran o ysbail ddymunodd cyn hyn
Heber! ei enw ddeffrodd alarnadau,
Gydymaith mewn galar, rho fenthyg dy dannau,
Cymysgwn ein cerddi, cymysgwn ein dagrau,
Os dinôdd y gerdd bydd y llygad yn llyn.

Yn anterth dy lwydd, Heber, syrthiaist i'r beddrod,
Cyn i dy goryn ddwyn un blewyn brith;
Yn nghanol dy lesni y gwywaist i'r gwaelod,
A'th ddeilen yn îr gan y wawrddydd a'r gwlith
Mewn munyd newidiaist y meitr am goron,
A'r fantell esgobawl am wisg wen yn Sïon,
Ac acen galarnad am hymn anfarwolion,
A thithau gymysgaist dy hymn yn eu plith.

Llwyni Academus,[2] cynorsaf dy lwyddiant,
Lle gwridaist wrth glod y dysgedig a'r gwâr;

  1. Gauts—mynyddoedd uchel wrth Travancore, penrhyn deheuol.—Himalaya, mynyddoedd uwch, wrth Cashgur, penrhyn gogleddol Hindostan.
  2. Llwyni Academus. Nid oes ond a wypo a ddichon ddychymygu y parch a dalwyd yn Rhydychen i Heber, ar parch a delir eto i’w enw. Yno y daeth gyntaf i wydd yr oes drwy ei Balestine, a gyfieithwyd i’r Gymraeg mor ardaerchog gan yr unig wr cyfaddas i’r gorchwyl—yr enwocaf Gymro, Dr. Pughe.